Lleoliad:
Y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Mai 2020
Amser: 14.00 - 14.45
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6204
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Janet Finch-Saunders AS (Cadeirydd) Michelle Brown AS Neil McEvoy AS Jack Sargeant AS Leanne Wood AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· rhannu sylwadau pellach y deisebydd â'r Gweinidog Addysg, a gofyn am ymateb i'r materion a godwyd a’r cwestiynau pellach a ofynnwyd, gan gynnwys y pryderon a fynegwyd ynghylch lles myfyrwyr sy'n dewis sefyll dwy set o arholiadau;
· ysgrifennu at sefydliadau sy'n cynrychioli penaethiaid i ofyn am eu barn ar y dull gweithredu a ddefnyddir yng Nghymru;
· ceisio barn Aelodau'r Senedd Ieuenctid.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb ar gais y deisebydd, a hynny yn sgil y ffaith bod system wedi'i sefydlu ers cyflwyno'r ddeiseb er mwyn sicrhau bod archfarchnadoedd yng Nghymru yn gallu cadw slotiau blaenoriaeth ar gyfer dosbarthu siopa ar gyfer unigolion sy'n cael eu gwarchod.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn:
· codi'r pwyntiau a wnaed gan y deisebwyr ynghylch hawliau teuluoedd staff locwm a staff asiantaeth, a dinasyddion nad ydynt yn Brydeinig sy'n gweithio yn y GIG;
· gofyn a fyddai gweithwyr yn y categorïau hyn yn dod o dan y Cynllun Marwolaeth mewn Gwasanaeth COVID-19 ar gyfer gweithwyr rheng flaen y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol;
· cynnig y dylai Llywodraeth Cymru ystyried a fyddai modd ymestyn y cynllun i weithwyr hanfodol eraill.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at Bio-Bŵer Môr Hafren i ofyn am wybodaeth am y broses o ddatblygu’r cynlluniau drafft ar gyfer y datblygiad arfaethedig, gan gynnwys amserlenni ac unrhyw gynlluniau ar gyfer gwaith pellach i ymgysylltu neu ymgynghori â’r cyhoedd;
· ysgrifennu at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i ofyn a yw parhau â’r broses o losgi gwastraff yn cyd-fynd â’r datganiad o argyfwng hinsawdd a strategaeth wastraff Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn pa sicrwydd y gall ei roi bod amgylchiadau presennol yr adran damweiniau ac achosion brys, yng ngoleuni effaith y pandemig cyfredol arni, yn cael eu hystyried mewn cynlluniau a phenderfyniadau yn y dyfodol ynghylch adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg;
· ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am wybodaeth ynghylch pryd y mae'n rhagweld y bydd cyfle i drafod busnes fel y ddeiseb hon yn ystod y Cyfarfod Llawn.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gau'r ddeiseb, ar gais y deisebydd.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i gymryd y camau a ganlyn:
· ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ofyn am ymateb i'r cais bod penderfyniad rhestru Cadw yn destun adolygiad gan gymheiriaid annibynnol, sef Historic England neu Historic Scotland;
· ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am wybodaeth ynghylch pryd y mae'n rhagweld y bydd cyfle i drafod busnes fel y ddeiseb hon yn ystod y Cyfarfod Llawn.
Yng ngoleuni'r ffaith bod arddangosfeydd cyhoeddus a gwaith dilynol wedi cael eu gohirio yn sgil y Coronafeirws, cytunodd y Pwyllgor i aros am ymateb y deisebwyr i lythyr Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru cyn ystyried pa gamau pellach y gellid eu cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb.
O ystyried y ffaith bod meddygfa Lansbury a meddygfa Troed y Bryn wedi cau ar 1 Mai yn dilyn ymdrechion aflwyddiannus i recriwtio meddyg teulu newydd, a’r ffaith bod cleifion wedi cael eu trosglwyddo i feddygfeydd lleol eraill, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer o gamau pellach y gallent eu cymryd. Yn sgil hynny, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, gan ddiolch i’r deisebwyr am godi’r mater hwn.